DATGANIAD YSGRIFENEDIG

GAN

LYWODRAETH CYMRU

 

 


TEITL

 

Rheoliadau Symud Nwyddau (Gogledd Iwerddon i Brydain Fawr) (Anifeiliaid, Bwyd Anifeiliaid a Bwyd, Iechyd Planhigion etc.) (Darpariaeth Ddarfodol a Diwygiadau Amrywiol) 2024

DYDDIAD

28 Hydref 2024

GAN

Huw Irranca-Davies MS/AS, Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig

 

 

Bydd Aelodau o'r Senedd yn dymuno cael gwybod ein bod yn rhoi cydsyniad i'r Ysgrifennydd Gwladol arfer pŵer i wneud is-ddeddfwriaeth mewn maes datganoledig mewn perthynas â Chymru.

 

Gofynnwyd am gytundeb gan y Gwir Anrhydeddus Arglwydd Benyon, y Gweinidog dros Fioddiogelwch a Materion Morol a Gwledig ar y pryd i wneud Offeryn Statudol (OS) o'r enw Rheoliadau Symud Nwyddau (Gogledd Iwerddon i Brydain Fawr) (Anifeiliaid, Bwyd Anifeiliaid a Bwyd, Iechyd Planhigion etc.) (Darpariaeth Ddarfodol a Diwygiadau Amrywiol) 2024 (“Rheoliadau 2024”) i fod yn gymwys mewn perthynas â'r Deyrnas Unedig.

 

Gwnaed yr OS uchod gan y Gweinidog Gwladol, drwy arfer y pwerau a roddir o dan adran 8C(1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018, a pharagraff 21(a) o Atodlen 7 iddi.

 

Rhoddwyd cydsyniad i Lywodraeth y DU wneud yr offeryn hwn o ganlyniad i'r cytundeb ar y Model Gweithredu Targed y Ffin rhwng y tair llywodraeth ym Mhrydain Fawr i gyflwyno cyfundrefn iechydol a ffytoiechydol cydlynol a chyson ar gyfer nwyddau a fewnforiwyd i Brydain Fawr i amddiffyn bioddiogelwch a sicrhau bod safonau diogelwch bwyd yn cael eu cynnal.

 

Diben yr offeryn hwn yw cadw a miniogi buddion mynediad dilyffethair i'r farchnad ar gyfer nwyddau cymwys o Ogledd Iwerddon drwy gymhwyso cyfundrefn rheolaethau iechydol a ffytoiechydol (“SPS”) i nwyddau anghymwys sy'n dod i Brydain Fawr o Ogledd Iwerddon, fel y'i cymhwysir i nwyddau yr Undeb Ewropeaidd / Ardal Economaidd Ewropeaidd o dan y Cyfnod Graddoli Trosiannol. Mae Rheoliadau 2024 yn gwneud diwygiadau canlyniadol i'r diffiniad o nwyddau cymwys o Ogledd Iwerddon y cyfeirir ato yn y ddeddfwriaeth bresennol. Mae'r Rheoliadau a'r Memorandwm Esboniadol cysylltiedig, sy'n nodi pwrpas, ac effaith Rheoliadau 2024 ar gael yma:

published SI linked here.

Mae'r tair llywodraeth ym Mhrydain Fawr wedi dechrau cyflwyno rheolaethau SPS yn raddol ar gyfer nwyddau'r UE a nwyddau anghymwys sy'n cyrraedd Prydain Fawr o ynys Iwerddon. Ers 31 Ionawr 2024, bu'n ofynnol i nwyddau anghymwys sy'n cyrraedd Prydain Fawr o Iwerddon ddarparu rhag-hysbysiad a'r ardystiad iechyd a ffytoiechydol perthnasol. Mae Rheoliadau 2024 yn cyflwyno gofynion SPS cyfatebol ar gyfer nwyddau anghymwys sy'n dod i mewn i Brydain Fawr o Ogledd Iwerddon, gan sicrhau dull gweithredu sy'n cyd-fynd â rheolaethau SPS. Bydd nwyddau cymwys Gogledd Iwerddon yn parhau i elwa ar fynediad dilyffethair a byddant yn parhau i gael eu hesemptio o'r rheolaethau SPS hyn. Mae Rheoliadau 2024 yn ddarostyngedig i'r weithdrefn gadarnhaol.

 

Nid yw Rheoliadau 2024 yn ymrwymo Gweinidogion Cymru i fabwysiadu unrhyw safbwynt o eiddo Llywodraeth y DU ar fioddiogelwch yn y dyfodol. Nid yw Rheoliadau 2024 yn lleihau nac yn tanseilio pwerau Gweinidogion Cymru mewn unrhyw ffordd.

 

Hoffwn sicrhau'r Senedd mai polisi Llywodraeth Cymru fel arfer yw deddfu dros Gymru ar faterion o fewn cymhwysedd datganoledig. Fodd bynnag, mewn rhai amgylchiadau, mae manteision o gydweithio â Llywodraeth y DU pan fo sail resymegol glir dros wneud hynny. Ar yr achlysur hwn, rwyf wedi rhoi fy nghydsyniad i'r Rheoliadau hyn er mwyn sicrhau effeithlonrwydd a hwylustod o ran newid polisi yn y dyfodol, cydymffurfio â rhwymedigaethau rhyngwladol, cydgysylltu ar draws y DU a chysondeb.

 

Mae Llywodraeth y DU wedi dweud mai diben Rheoliadau 2024 yw diogelu buddion mynediad dilyffethair i'r farchnad ar gyfer nwyddau cymwys Gogledd Iwerddon. Gwnaeth Llywodraeth y DU ymrwymiad ym Model Gweithredu Targed y Ffin, a gyhoeddwyd ym mis Awst 2023, a phapur gorchymyn 'Safeguarding the Union', a gyhoeddwyd ym mis Ionawr 2024, y bydd nwyddau anghymwys yn ddarostyngedig i gyfundrefn SPS lawn y DU.